top of page

Mae Bagloriaeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau hanfodol yn barod ar gyfer cyflogaeth. Bydd yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer eu dyfodol trwy ddatblygu'r sgiliau, y priodoleddau, a'r ymddygiadau sydd eu hangen yn y byd gwaith. 

 

Ein nod yw defnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu, gan alluogi ein pobl ifanc i ddod yn wydn, yn ddyfeisgar ac yn fyfyriol. Asesir cynnydd dysgwyr yn barhaus trwy gydol Blwyddyn 10 ac 11. Mae Bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar dystysgrif her sgiliau, ochr yn ochr â chymwysterau ategol. Mae'r dystysgrif yn cynnwys pedair cydran; y prosiect unigol, her menter a chyflogadwyedd, her dinasyddiaeth fyd-eang a her gymunedol. 

 

Amlinelliad o'r Cwrs ac Asesiad 

 

Yn ystod y rhaglen astudio, bydd dysgwyr yn cwblhau pob un o'r pedair her. Nid trwy arholiadau traddodiadol yr asesir, ond trwy gwblhau aseiniadau sy'n cael eu marcio yn y ganolfan. Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu i roi pob cyfle i ddysgwyr ddangos dealltwriaeth. 

 

Gallai'r cwrs hwn helpu dysgwyr i symud ymlaen i gymhwyster CA4 Bagloriaeth Genedlaethol Cymru, cyn belled â bod ganddynt y lefel ofynnol o lwyddiant mewn pynciau TGAU eraill. 

 

 

 

 

 

Foundation cycle of projects

Bagloriaeth Cymru

R. Mann a Miss H. Mitchell

Welsh baccalaureate blue and white certificate logo
bottom of page