top of page

Astudiaethau'r Cyfryngau 

Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan ganolog yn y gymdeithas a'r diwylliant cyfoes. Maent yn siapio ein canfyddiadau o'r byd trwy'r cynrychioliadau, y safbwyntiau a'r negeseuon y maent yn eu cynnig. 

 

Mae diwydiannau'r cyfryngau yn cyflogi nifer fawr o bobl ledled y byd ac yn gweithredu fel diwydiannau masnachol ar raddfa fyd-eang. Mae natur fyd-eang y cyfryngau cyfoes, ynghyd â datblygiadau technolegol parhaus a mwy o gyfleoedd i ryngweithio â’r cyfryngau, yn awgrymu mai dim ond cynyddu y gall eu canologrwydd mewn bywyd cyfoes.

Y Cwrs

Yn ystod y cwrs TGAU ym mlwyddyn 11 bydd gan ddysgwyr

y cyfle i astudio ffilm, gemau fideo, hysbysebion,

cyfryngau cymdeithasol a fideos cerddoriaeth.

​

​Bydd dysgwyr yn:

  • datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau trwy ystyried materion sy’n bwysig, yn real ac yn berthnasol i ddysgwyr ac i’r byd y maent yn byw ynddo

  • datblygu eu gwerthfawrogiad a’u dealltwriaeth o bwysigrwydd a rôl y cyfryngau yn eu bywydau bob dydd

  • datblygu eu sgiliau ymarferol trwy gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu personol a chynhyrchu cyfryngau creadigol

  • deall sut i ddefnyddio cysyniadau allweddol a therminoleg pwnc-benodol arbenigol i ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau

  • datblygu dealltwriaeth o gynhyrchion y cyfryngau mewn perthynas â'u cyd-destunau diwydiant

  • gwerthuso a myfyrio ar eu gwaith ymarferol eu hunain

​

Bydd y gwaith cwrs hefyd yn seiliedig ar ffilm, lle bydd dysgwyr yn gallu defnyddio sgiliau creadigol i wneud posteri ffilm a chloriau DVD. Yma bydd dysgwyr yn ystyried yn ofalus beth sy'n denu cynulleidfa i'r genre hwn o ffilm ac yn eu dal.

Media blue and white question and answer logo
bottom of page